Gwybodaeth cyflogwr
Taliadau cynhaliaeth plant
Gallwch reoli eich cyfrif ar y wefan hunanwasanaeth. Byddwch angen eich cyfeirnod cyflogwr 12 digid a'ch cod PAYE.
Unwaith byddwch wedi cofrestru, gallwch weld ac uwchlwytho amserlenni Gorchymyn Didynnu Enillion, diweddaru eich manylion a gweld neu wneud taliadau.
Trwy ddefnyddio hunanwasanaeth, mae taliadau'n cael eu dyrannu'n awtomatig i deuluoedd. Mae hyn yn golygu y bydd arian yn llifo i deuluoedd yn gyflymach yn ystod y cyfnod ansicr yma.
Mae'r wefan yn ddiogel felly mae holl wybodaeth eich cwmni a'ch gweithwyr yn ddiogel ac mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Cefnogaeth ariannol yn ystod coronafirws (COVID-19)
Mae'r llywodraeth wedi rhoi ar waith ystod lawn o fesurau cymorth busnes ar gyfer busnesau'r DU.
I ddarganfod pa gymorth sydd ar gael ewch i www.gov.uk/coronavirus/business-support
Methu rheoli fy achos ar-lein
Os na allwch gael mynediad neu ddefnyddio'r wefan hunanwasanaeth, gallwch gysylltu gyda ni dros y ffÙn. Gallwch ddod o hyd i'r rhif yn eich pecyn croeso neu ar ben unrhyw lythyr rydym wedi'i anfon atoch.