Telerau defnyddio ac ymwadiad
Cofrestru
Mewngofnodi
Diogelwch
Gwasanaeth negeseuon
Hysbysiadau statudol, nodiadau atgoffa a thystysgrifau
Cyffredinol
Defnydd awdurdodedig
Mynediad i'r gwasanaeth
Gwybodaeth yn ymwneud ‚'ch rhwymedigaethau statudol
Atebolrwydd
Talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio'r wefan hunanwasanaeth
Cyfraith berthnasol
Ymwadiad
Rheolir y wefan hunanwasanaeth ('y wefan') gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (y cyfeirir at fel 'Ni', neu 'Ein' isod).
Wrth fynd i mewn i'r wefan yma, rydych chi fel defnyddiwr yn derbyn ein telerau defnyddio.
Cyflwyniad
Mae cyfrifoldebau a rhwymedigaethau'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i chi wrth ddarparu'r gwasanaeth yma ac unrhyw wasanaethau cysylltiedig yn gyfyngedig fel y nodir yn ein hymwadiad isod.
Cewch fanylion llawn y gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd ar dudalennau gwe'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Gweler ein tudalennau gwe Directgov gyfer achosion Prydeinig neu ein tudalennau NiDirect ar gyfer achosion Gogledd Iwerddon
Cofrestru
Fel unigolyn, gallwch gofrestru i ddefnyddio'r wefan hunanwasanaeth trwy Directgov ar gyfer achosion Prydeinig a NiDirect ar gyfer achosion Gogledd Iwerddon.
Os ydych yn cofrestru ar Directgov neu NiDirect, bydd y manylion rydych yn eu darparu yn cael eu storio'n ddiogel ar wefan hunanwasanaeth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn unol gyda pholisi preifatrwydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Gallwch weld polisi preifatrwydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ar y wefan hunanwasanaeth.
Gall eich cyfeiriad e-bost, os caiff ei ddarparu, gael ei ddefnyddio gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i gyfathrebu gyda chi am eich achos Cynhaliaeth Plant.
Efallai y bydd eich manylion cofrestru hefyd yn cael eu storio ar systemau'r wefan hunanwasanaeth. Gallwch weld polisi preifatrwydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ar y wefan yma.
Mewngofnodi
Pan fydd eich achos Cynhaliaeth Plant wedi'i sefydlu, gallwch fewngofnodi i'r wefan hunanwasanaeth gan ddefnyddio eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer, eich rhif Yswiriant Gwladol a'ch PIN saith digid a ddewiswyd gennych pan sefydlwyd eich achos.
Diogelwch
Rhaid i chi bob amser gadw'ch Rhif Cyfeirnod Cwsmer a'ch PIN yn saff a diogel.
Os byddwch chi'n anghofio'ch Rhif Cyfeirnod Cwsmer a'ch PIN, gallwch ofyn iddynt gael ei ail-roi naill ai trwy'r post neu dros y ffôn trwy gysylltu gyda'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Gwasanaeth negeseuon
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y wefan hunanwasanaeth bydd gennych fynediad i wasanaeth negeseuon ar-lein a fydd yn cael ei ddefnyddio i anfon cyfathrebiadau ac ymatebion i'ch cwestiynau.
Dylech wirio'ch negeseuon yn rheolaidd a darllen y negeseuon gan y byddwch yn cael eich sefydlu gyda'r dull cyswllt o ddewis yma yn ddiofyn trwy'r wefan hunanwasanaeth. Mae hyn yn golygu mai dim ond trwy'r wefan hunanwasanaeth yn yr adran negeseuon y bydd rhai o'r cyfathrebiadau a anfonwn atoch i'w gweld. Mae'n bosibl ichi newid y dull cyswllt yma trwy'r wefan hunanwasanaeth neu drwy gysylltu gyda'r Gwasanaeth Cynhaliaeth.
Hysbysiadau statudol, nodiadau atgoffa a thystysgrifau
Efallai y bydd rhai gwasanaethau ar-lein yn cael eu defnyddio i roi hysbysiadau statudol a nodiadau atgoffa i chi. Gallwch weld yr hysbysiadau a'r nodiadau atgoffa yn ddiogel ar y wefan hunanwasanaeth. Gallwch hefyd eu printio neu eu cadw ar eich cyfrifiadur. Bydd gan hysbysiadau statudol sydd ar gael fel hyn ar y wefan hunanwasanaeth yr un dilysrwydd a goblygiadau cyfreithiol ‚ hysbysiad statudol papur a anfonir atoch trwy'r post.
Cyffredinol
Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ddiwygio'r telerau defnyddio yma wrth i wasanaethau gael eu datblygu. Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:
- defnyddio'r gwasanaeth rhyngrwyd yma ar gyfer unrhyw ran o ddelio gyda chi mewn perthynas ag unrhyw un o'r gwasanaethau rydych chi wedi cofrestru ar eu cyfer.
- tynnu'n ôl neu ychwanegu gwasanaethau a nodweddion neu newid y ffordd y gallwch gael at y gwasanaethau hynny heb hysbysu gwybodaeth ymlaen llaw - er y byddwn yn ceisio rhoi rhybudd i chi o unrhyw newidiadau.
Gallwch weld y telerau defnyddio yma ar unrhyw adeg trwy ddilyn y linc 'telerau defnyddio ac ymwadiad' ar waelod unrhyw dudalen we hunanwasanaeth.
Defnydd awdurdodedig
Gwefan warchodedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw hon. Mae mynediad heb awdurdod ac addasu heb awdurdod yn droseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990; mae'n anghyfreithlon felly achosi difrod iddi yn fwriadol neu i unrhyw gyfleuster neu ddata electronig y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant trwy drosglwyddo unrhyw raglen, gwybodaeth, cod neu orchymyn yn wybodus.
Os na nodir yn benodol, mae'r deunydd sy'n ymddangos ar y wefan yma wedi'i warchod gan Hawlfraint y Goron.
Mynediad i'r gwasanaeth
Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ceisio sicrhau bod y gwasanaeth ar-lein ar gael pedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Os bydd ymyriad ar y gwasanaeth, bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ceisio ei adfer cyn gynted ‚ phosibl. Fodd bynnag, gellir gohirio mynediad i'r gwasanaeth heb rybudd. Os amherir ar y gwasanaeth, eich cyfrifoldeb chi o hyd yw cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau sy'n codi mewn perthynas ‚ chynhaliaeth plant.
Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cadw'r hawl i wrthod mynediad at y gwasanaeth pan ystyrir ei bod yn angenrheidiol i amddiffyn y sefydliad, er enghraifft, i amddiffyn ni a/neu uniondeb y gwasanaeth.
Gwybodaeth yn ymwneud ‚'ch rhwymedigaethau statudol
Gallwch gyrchu gwybodaeth ac arweiniad cyfreithiol ynghylch eich rhwymedigaethau statudol trwy fynd i wefan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd ‚'r wybodaeth yma gan y bydd yn dweud wrthych beth yw'r gofynion statudol ar gyfer defnyddio gwasanaethau ar-lein.
Atebolrwydd
Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd y wybodaeth a gynhwysir yn y cyhoeddiadau a'r gwasanaethau sy'n cael eu storio, eu cyflwyno a'u cyrchu gan y gwasanaeth gwe yma, ond ni ddylid dibynnu ar y wybodaeth yma yn lle cyngor ffurfiol. Darperir y deunyddiau a gynhwysir ar y wefan yma er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid ydynt yn gyfystyr ag unrhyw fath o gyngor.
Ni fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, ei weithwyr a'i asiantau yn gyfrifol am unrhyw golled, sut bynnag y bydd yn deillio, o ddefnyddio'r wybodaeth yma, neu ddibynnu arni. Ni fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn atebol am unrhyw iawndal arbennig, damweiniol, anuniongyrchol neu ganlyniadol o unrhyw fath, gan gynnwys, heb gyfyngiad, y rhai sy'n ganlyniad o golli defnydd, data neu elw, sut bynnag y digwyddant.
Trwy ddarparu dolenni i wefannau eraill, nid yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gwarantu, cymeradwyo nac yn arnodi'r wybodaeth neu'r cynnyrch sydd ar gael ar y gwefannau yma, ac nid yw dolen o reidrwydd yn nodi unrhyw gysylltiad ‚'r wefan gysylltiedig neu ei bod yn cael ei chymeradwyo gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Ni fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn atebol am unrhyw ymyrraeth neu fethiant i sicrhau bod y system ar gael.
Talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio'r wefan hunanwasanaeth
Byddwch yn ymwybodol mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cael taliad, a'i fod wedi clirio i mewn i gyfrif y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, ar neu cyn y dyddiad dyledus. Gall methu ‚ gwneud hyn arwain at log a / neu d‚l ychwanegol.
Cyfraith berthnasol
Bydd telerau defnyddio'r cytundeb yma yn cael eu dehongli yn unol ‚ deddfau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a byddant yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant newid y telerau defnyddio yma ar unrhyw adeg. Bydd eich defnydd parhaus o'r gwasanaeth ar ôl newid o'r fath yn cael ei ddehongli fel eich bod yn derbyn y telerau defnyddio diwygiedig. Er eich budd eich hun dylech sicrhau eich bod yn ail-ymweld gyda nhw'n aml.
Fel defnyddiwr y gwasanaeth yma mae'n rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad ydych yn creu, defnyddio, storio, lawr lwytho, gosod, dosbarthu na chylchredeg unrhyw ddeunydd gan gynnwys delweddau, negeseuon testun, meddalwedd neu ddolenni i wefannau sydd:
- yn neu a allai gael eu hystyried yn anweddus neu'n anllad
- yn neu a allai gael eu hystyried yn ymosodol neu'n ddifrÔol, gellid eu hystyried yn ymosodiad personol, neu'n anghwrtais, yn rhywiaethol, yn hiliol, neu'n ddiflas ar y cyfan
- yn annog neu'n hyrwyddo unrhyw weithgaredd anghyfreithlon o'r gwasanaeth yma
- yn hyrwyddo unrhyw fusnes neu achosi, yn ariannol neu fel arall, p'un ai'n fasnachol, yn wleidyddol, yn ddiwylliannol, yn ethnig neu'n grefyddol
- yn annog neu'n hyrwyddo unrhyw weithgaredd anghyfreithlon
- yn cynnwys unrhyw weithgaredd y tu hwnt i gwmpas y gwasanaeth ar-lein yma, er enghraifft, unrhyw hysbysebu neu werthu nwyddau a gwasanaethau
- ganddo'r potensial i niweidio neu orlwytho systemau, rhwydweithiau a / neu gyfathrebiadau allanol y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
- gallai fod yn ddifenwol; achosi atebolrwydd i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu aelod cofrestredig arall neu gael unrhyw effaith anffafriol
- ei ddiogelu gan ddeddfau hawlfraint
Mae rhai gweithredoedd mewn gwirionedd yn droseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Mae'r rhain yn cynnwys:
- mynediad heb awdurdod i ddeunydd cyfrifiadurol (megis hacio; mynediad amhriodol i gofnodion cwsmeriaid a data a systemau corfforaethol, gan gynnwys cyfleusterau olrhain/chwilio)
- mynediad heb awdurdod, gyda'r bwriad o gyflawni (neu helpu eraill i gyflawni) troseddau pellach
- addasu deunydd cyfrifiadurol heb awdurdod
Mae cyfrifoldebau a rhwymedigaethau'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i chi wrth ddarparu'r gwasanaeth yma ac unrhyw wasanaethau cysylltiedig yn gyfyngedig fel y nodir yn ein hymwadiad isod.
Ymwadiad
Darperir y wefan a'r deunydd sy'n ymwneud ‚ gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau'r llywodraeth neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (neu i wybodaeth gwasanaethau trydydd parti, cynhyrchion a gwasanaethau) 'fel y mae', heb i unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth gael ei gwneud a heb warant o unrhyw fath p'un a yw'n benodol neu ymhlyg, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y gwarantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, ffitrwydd at ddiben penodol, di-drosedd, cydnawsedd, diogelwch, cyflawnrwydd a chywirdeb.
Nid ydym yn gwarantu nac yn cynrychioli y bydd y gweithredoedd sydd wedi'u cynnwys yn y deunydd sydd ar gael ar y wefan yma yn ddi-dor neu'n rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan yma neu'r gweinyddwr sy'n sicrhau ei bod ar gael yn rhydd o firysau neu'n cynrychioli'r gweithredoedd yn llawn, cywirdeb neu ddibynadwyedd y deunyddiau.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw gost, colled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, neu unrhyw gost, colled neu ddifrod o gwbl sy'n codi o ddefnyddio, neu golli defnydd, data, neu golli elw, yn codi o neu allan o ddefnyddio'r wefan hunanwasanaeth neu ddibynnu ar ei chynnwys.
Ni ellir gwarantu bod unrhyw drosglwyddo data dros y rhyngrwyd yn hollol ddiogel. Er ein bod yn ymdrechu i amddiffyn gwybodaeth o'r fath, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth rydych yn ei throsglwyddo atom. Yn unol ‚ hynny, mae unrhyw wybodaeth rydych yn ei throsglwyddo atom yn cael ei throsglwyddo ar eich risg eich hun. Nid yw'r wefan yn cymryd lle cyngor proffesiynol annibynnol a dylai defnyddwyr gael unrhyw gyngor proffesiynol priodol sy'n berthnasol i'w hamgylchiadau penodol.
Gall y deunydd ar y wefan yma gynnwys barnau neu argymhellion trydydd parti, nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barnau'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu'r llywodraeth, nac yn nodi ymrwymiad i gamau gweithredu penodol. Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd sy'n codi mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd trydydd parti o'r fath.