Datganiad hygyrchedd ar gyfer Fy Achos Cynhaliaeth Plant a'r Gwasanaeth Cyflogwr Cynhaliaeth Plant
Mae'r datganiad hygyrchedd yma yn berthnasol i Fy Achos Cynhaliaeth Plant a'r Gwasanaeth Cyflogwr Cynhaliaeth Plant.
Mae'r wefan yma yn cael ei rheoli gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Rydym am i gynifer o bobl a phosibl allu defnyddio'r wefan yma. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio'r gosodiadau porwr neu ddyfais
- chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun syrthio oddi ar y sgrin
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais neu bysellfwrdd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (yn cynnwys y fersiynau fwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet (agor ar dab newydd) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan
Rydym yn gwybod nad yw rai rhannau o'r wefan yma yn gwbl hygyrch:
- nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i'r meddalwedd darllen sgrin
Gwybodaeth gyswllt ac adborth
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os ydych:
- yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen yma neu feddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
- angen gwybodaeth ar y wefan yma mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu gyswllt braille
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch.
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi'r Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Apiau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').
Os yw'ch achos wedi ei leoli yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Chomisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Gogledd Iwerddon (ECNI) (agor mewn tab newydd).
Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i'ch cwyn cysylltwch gyda'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (agor mewn tab newydd)).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan yma
Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Chyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Apiau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).
Mae'r wefan yma yn cydymffurfio'n llawn â Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 Safon AA.accessibility-statement:the-child-maintenance-employer_
Darparu'r datganiad hygyrchedd yma
Darparwyd y datganiad yma ar 30 Mai 2022. Cafodd ei adolygu diwethaf ar 24 Medi 2024.
Profwyd y wefan yma diwethaf ar 24 Medi 2024 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA.
Cynhaliwyd y prawf gan dîm gwefan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Cafodd y tudalennau yr edrychwyd arnynt fwyaf eu profi gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan ein tîm gwefan. Cynhaliwyd archwiliad pellach o'r wefan i safon WCAG 2.2 AA.