1. Hafan
  2. Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd

Mae'r wefan yma yn cael ei rheoli gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Fe'i cynlluniwyd i'w ddefnyddio gan gymaint o bobl â phosibl. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i'r testun syrthio oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (yn cynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet (agor mewn tab newydd) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Gwybodaeth gyswllt ac adborth

Os ydych angen gwybodaeth o'r gwefan yma mewn ffyrdd gwahanol, cysylltwch â ni a dweud wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • y fformat sydd ei angen arnoch - er enghraifft braille, print bras, tâp sain neu CD

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan yma

Rydym yn wastad edrych i wella'r hygyrchedd o'r gwefan yma. Os ydych yn darganfod unrhyw broblemau heb eu rhestru ar y dudalen yma neu os credwch nad ydym yn cwrdd a'r anghenion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Gweithdrefn gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd') Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) .

Os yw'ch achos wedi ei leoli yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Chomisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Gogledd Iwerddon (ECNI) (opens in a new tab).

Os byddwch chi'n cysylltu gyda ni gyda chwyn ac nid ydych chi'n hapus gyda'n hymateb cysylltwch gyda'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (agor mewn tab newydd).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan yma

Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Chyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) .

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan yma yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA (agor mewn tab newydd), oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

  • Mae rhai dogfennau mewn fformatau llai hygyrch, er enghraifft PDF. Rhaid i ddogfennau nad ydynt yn HTML a gyhoeddwyd ar neu ar ôl 23 Medi 2018 fod â fformat hygyrch
  • rhai o'r tudalennau cofnodi rhannu gofal lle mae'r cynnwys dadlennu'r amodol parhau mewn defnydd

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid oes angen i ddogfennau nad ydynt yn HTML a gyhoeddwyd cyn mis Medi 2018 fod yn hygyrch - oni bai bod eu hangen ar ddefnyddwyr i ddefnyddio gwasanaeth.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn cyweirio ar frys cynnwys sy'n methu â chyrraedd Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA. Byddwn yn diweddaru'r dudalen yma pan fydd materion wedi'u cyweirio.

Sut y gwnaethom brofi'r wefan yma

Profwyd y wefan yma diwethaf ar y 30 Mai 2022. Mae'r prawf yma wedi ei gynnal trwy'r Canolfan Hygyrchedd Digidol a'u cywiro am gydymffurfiad gyda'r WCAG 2.1AA.

Darparwyd y datganiad yma ar 9 Mehefin 2022.