Mewngofnodi i'ch cyfrif cynhaliaeth plant
Defnyddiwch eich cyfrif i reoli cynhaliaeth plant ar-lein.
Os oes gennych achos yn barod
Mewngofnodwch i'ch cyfrif i:
- roi gwybod am newid i'ch amgylchiadau. Mae cymorth gwe-sgwrs ar gael i gwblhau eich adroddiad ar-lein
- darganfod beth sy’n digwydd os nad ydych wedi cael neu dalu’r swm llawn o Gynhaliaeth Plant disgwyliedig
- roi gwybod am unrhyw dreuliau neu incwm yr ydych am i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant eu hystyried
- gweld eich gwybodaeth talu a'ch amserlen
- deall pa wybodaeth a ddefnyddiwyd gennym i gyfrifo eich taliad
- dilyn datblygiadau y newidiadau rydych wedi rhoi gwybod amdanynt
- diweddaru eich manylion personol neu eich dewisiadau cyswllt
- cysylltwch gyda ni
Darganfyddwch fwy o wybodaeth os ydych yn cael problemau wrth fewngofnodi.
Os yw eich cais yn dal i gael ei brosesu
Mewngofnodwch i'ch cyfrif i:
- gweld datblygiadau ar eich cais
- diweddaru eich manylion cyswllt
Unwaith y bydd eich cais wedi'i gwblhau, byddwch yn gallu cael mynediad at yr holl wasanaethau.
Gwybodaeth a chefnogaeth arall
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gan gynnwys:
- cael help i drefnu cynhaliaeth plant
- gwneud a chael taliadau
- newidiadau mae angen i chi roi gwybod i ni amdanynt
- beth i wneud os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad rydym wedi ei wneud
- cymorth ar gyfer eich cyllid, dyled neu iechyd meddwl
- cael cymorth gyda cham-drin domestig