Manylion am cwcis ar y gwasanaeth yma

Os bydd eich cwcis wedi ei diffodd

Byddwch yn gweld neges gwall pan fyddwch yn ceisio defnyddio’r wefan os bydd eich cwcis wedi eu hanalluogi.

Mae sut i droi cwcis ymlaen yn dibynnu ar y porwr rydych yn ei ddefnyddio a pha mor gyfoes ydyw.

Darganfod sut i newid eich gosodiadau ar gyfer y porwyr mwyaf poblogaidd, gan gynnwys:

Darganfod sut i reoli cwcis ar gyfer porwyr eraill.

Cwcis sy’n mesur defnydd gwefan

Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio’r wefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth yma i wella’r wefan yma.

Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu’r data am sut rydych yn defnyddio’r safle yma.

Mae cwcis Google analytics yn casglu a storio gwybodaeth am:

  • y dudalen rydych yn ei ymweld – be rydych yn ei glicio arno wrth ddefnyddio’r wefan
  • faint o amser rydych yn ei dreulio ar bob tudalen
  • sut y gwnaethoch gyrraedd y dudalen
Cwcis Google analytics
Enw Pwrpas Terfynu
_ga Cyfri faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan trwy olrhain os ydych wedi ymweld o’r blaen. 60 munud neu pan fyddwch yn cau eich porwr
_gat_* Defnyddir i gyfri faint o dudalennau a edrychir arnynt a pha mor aml. 10 munud
_gid Cyfri faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan trwy olrhain os ydych wedi ymweld o’r blaen. 24 awr

Cwcis sy’n helpu perfformiad

Rydym yn defnyddio rhai cwcis er mwyn helpu gwneud yn siwr fod y wefan yma yn gweithio’n gyson i bawb.

Amazon Web Services
Enw Pwrpas Terfynu
AWSALB Mae cwcis yn ein helpu i rannu traffic y gweinydd er mwyn gwneud profiad y defnyddiwr mor llyfn â phosib. 1 diwrnod
AWSALBCORS Mae cwcis yn ein helpu i ddyrannu traffic y gweinydd er mwyn gwneud profiad y defnyddiwr mor llyfn â phosib. 1 diwrnod

Cwcis sy’n helpu i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel

Rydym yn defnyddio cwcis sesiwn i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel wrth i chi symud yn ôl ac ymlaen drwy’r wefan.

Mae’r cwcis yma yn cael eu tynnu o’ch cyfrifiadur yn awtomatig pan fyddwch yn cwblhau eich cais neu os:

  • na fyddwch yn gwneud dim am 60 munud
  • byddwch yn cau eich porwr
  • troi eich cyfrifiadur i ffwrdd
Cwcis diogelwch
Enw Pwrpas Terfynu
sessionID I gofio ble rydych o fewn y cais a’ch atebion blaenorol fel y gallwch symud yn ôl ac ymlaen trwy’r wefan. 60 munud neu pan fyddwch yn cau eich porwr

Caniatâd dadansoddi

Byddwch yn gweld baner pan fyddwch yn ymweld â’r wefan yma yn eich gwahodd i dderbyn neu wrthod cwcis. Byddwn yn gosod cwci i storio eich gosodiadau.

Cwcis gwasanaeth
Enw Pwrpas Terfynu
DWP_ANALYTICS_COOKIE Mae hyn yn cofnodi eich dewisiadau cwcis ar gyfer Google Analytics 1 blwyddyn