Mewngofnodi i'ch cyfrif
Gallwch reoli eich cynhaliaeth plant ar-lein gan ddefnyddio Fy Achos Cynhaliaeth Plant.
Os oes gennych achos yn barod
Mewngofnodwch i'ch cyfrif er mwyn:
- roi gwybod am newid mewn amgylchiadau. Mae cefnogaeth Gwe-sgwrs ar gael i gwblhau eich adroddiad ar-lein
- darganfod beth sy’n digwydd os nad ydych wedi cael neu dalu’r swm llawn o Gynhaliaeth Plant a ddisgwylir
- roi gwybod am unrhyw dreuliau neu incwm yr ydych am i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant eu hystyried
- gweld eich gwybodaeth talu a'ch amserlen
- deall pa wybodaeth a ddefnyddiwyd gennym i gyfrifo eich taliad
- dilyn datblygiadau y newidiadau yr ydych wedi rhoi gwybod amdanynt
- diweddaru eich manylion personol neu'ch dewisiadau cyswllt
- cysylltu gyda ni
Darganfyddwch fwy o wybodaeth os ydych yn cael problemau wrth fewngofnodi.
Os yw eich cais yn dal i gael ei brosesu
Mewngofnodwch i'ch cyfrif er mwyn:
- gweld y cynnydd eich cais
- diweddaru eich manylion cyswllt
Unwaith y bydd eich cais wedi'i gwblhau, byddwch yn gallu defnyddio'r holl wasanaeth.
Gwybodaeth a chymorth arall
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gan gynnwys:
- cael cymorth i drefnu cynhaliaeth plant
- gwneud a chael taliadau
- newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt
- beth i'w wneud os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad rydym wedi'i wneud
- cefnogaeth ar gyfer eich cyllid, dyled neu iechyd meddwl
- cael help gyda cham-drin domestig