1. Hafan
  2. Help Cyflogwr

Help a chwestiynau cyffredin

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i ddefnyddio'r wefan yma, gallwch ddod o hyd i'r atebion yma. Sgroliwch trwy ein rhestr o gwestiynau cyffredin neu chwiliwch i ddod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n edrych amdani.

Sut gallaf gysylltu gyda chi?

Ewch i’n tudalen Cysylltu gyda ni i ddarganfod y ffordd gorau o gysylltu gyda ni.

Mae yna broblem gyda’r safle – pwy gallaf dweud wrthynt?

Os ydych am roi gwybod am broblem gyda’r safle, ewch i’r adran 'Fy negeseuon' ac anfonwch neges atom, a dethol y pwnc 'Anfon adborth'. Os nad ydych wedi mewngofnodi, gallwch gysylltu gyda ni contact us mewn ffordd arall.

Gallaf gael gwybodaeth mewn ffurf neu iaith arall?

Gallwch ofyn am ohebiaeth, ffurflenni a llythyrau mewn Braille neu fersiwn print bras. Mae gennym fersiynau o lythyrau safonol ar dap sain, CD a DVD hefyd.

Mae gennym rif ffôn testun pwrpasol – gweler y dudalen Cysylltu gyda ni am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cyfieithu llafar ar gyfer cyfathrebiadau dros y ffôn ac wyneb i wyneb.

I gwneud cais am wybodaeth mewn ffurf neu iaith arall, ewch i cysylltu gyda ni.

Pa wybodaeth rydych yn cadw am fy nghwmni?

Os ydych yn gwybod pa wybodaeth neu ddogfennau rydych eu hangen, efallai gallwch eu cael trwy gysylltu gyda ni yn uniongyrchol heb angen cychwyn ein proses Rhyddid Gwybodaeth. Er enghraifft, efallai byddwch eisiau copi o ddogfen a ddelir gan swyddog achos.

Os credwch y gallai hyn fod yn berthnasol ar gyfer y wybodaeth rydych ei hangen, ewch i Cysylltu gyda ni

Os na allwn ymateb i’ch cais trwy’r llwybrau a ddisgrifiwyd uchod, bydd angen i chi wneud cais Rhyddid Gwybodaeth. Edrychwch ar ein Siarter Gwybodaeth (Opens in new tab) am fwy o wybodaeth ar sut i wneud hyn.

Pam ddylwn i ddefnyddio’r safle hunanwasanaeth?

Gyda’r safle hunanwasanaeth, mae’r holl wybodaeth rydych angen er mwyn rheoli a phrosesu’r DEO yna mewn un lle.

Pan fyddwch yn cyflwyno atodlen trwy’r safle, gallwn brosesu’r taliad yn awtomatig. Mae hyn yn cadw’r proses yn gyflym a syml ac yn lleihau’r amser fyddwch yn treulio yn ymateb cwestiynau gennym am wybodaeth a coll

Mae’r safle hefyd yn rhoi hanes i chi o’r holl gysylltiad rhwng eich cwmni a ni.

Beth mae’r hunanwasanaeth yn galluogi i fi wneud?

Gyda’r safle hunanwasanaeth, mae’r holl wybodaeth rydych angen er mwyn rheoli a phrosesu’r DEO yna mewn un lle. Gallwch ei ddefnyddio i:

- gweld y symiau rydych angen ei didynnu ar gyfer gweithwyr penodol
- cwblhau atodlen ar-lein sy’n dangos eich didyniadau gwirioneddol a chyfanswm y taliad – rydym yn awgrymu hyn ar gyfer cwmnïau llai gyda hyd at 10 DEO
- uwchlwytho adroddiad a gynhyrchwyd gan eich meddalwedd cyflogres
- gweld eich atodlenni a thaliadau a wnaethoch yn flaenorol
- anfon a derbyn negeseuon diogel rhwng eich cwmni a ni
- cadw cofnod o’r holl gysylltiadau rhwng eich cwmni a ni
- dweud wrthym am newidiadau i gyfeiriad neu fanylion cyswllt eich cwmni

Beth sy’n rhaid i mi ddweud wrthych yn gyfreithiol?

O dan gyfraith cynnal plant, mae’n drosedd os bydd unrhyw un sy’n ofynnol iddynt roi gwybodaeth:
- yn methu â rhoi gwybodaeth o’r fath pan ofynnir iddynt wneud hynny, heb esgus rhesymol neu
- yn rhoi gwybodaeth, neu’n achosi neu’n caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi, gan wybod yn iawn fod y wybodaeth honno’n ffug.

Os bydd llys yn eu cael yn euog o’r drosedd a ddisgrifir uchod, gallant gael eu dirwyo hyd at £1,000.

Hefyd, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i weithredu DEO lle rydym wedi cyfarwyddo i chi wneud hynny. Mae’n drosedd os ydych yn methu cydweithredu gyda’r gofyniad yma, a gall llys rhoi dirwy hyd at £500 ar gyfer pob taliad DEO a fethwyd.

Beth yw’r Rhif Cyfeirnod Cyflogwr (ERN)?

Rhif Cyfeirnod Cyflogwr (ERN) eich cwmni yw’r rhif 12 digid unigryw rydym yn rhoi i bob cyflogwr. Rydym yn cynnwys eich ERN ar bob cyfathrebiad a anfonir atoch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddefnyddio pob tro rydych yn ysgrifennu atom neu siarad gyda ni hefyd, fel ein bod gwybod pwy ydych.

Rydym yn trin gwahanol rifau PAYE fel cwmnïau gwahanol. Mae hyn yn golygu os oes gennych swyddfeydd gyda gwahanol rifau PAYE, yna bydd gan bob swyddfa wahanol ERN. O ganlyniad, bydd rhaid i chi gofrestru i’r safle hunanwasanaeth ar wahân ar gyfer bob rhif PAYE.

Os oes gennych amryw o rifau ERN, byddwn yn gofyn i chi pa un rydych am ddefnyddio pob tro fyddwch yn mewngofnodi.

Rwyf yn prosesu DEO ar gyfer amryw o gwmnïau. Sut gallaf gael mynediad i’r safle hunanwasanaeth ar gyfer mwy nag un cwmni?

Os ydych yn gyfrifydd neu fiwro cyflogres, cofiwch nad yw’r safle yn darparu cyfleuster i brosesu taliadau ar gyfer amryw o gwmnïau. Bydd angen i chi cynhyrchu’r adroddiad amserlen gyda’ch meddalwedd cyflogres a’i anfon at y cyflogwr iddynt hwy ei gyflwyno drwy eu cyfrif hunanwasanaeth.

Sut ydych yn cyfrifo’r swm incwm a amddiffynnir?

Cyfran yr incwm a amddiffynnir yw 60 y cant o enillion net rheolaidd eich gweithiwr ym mhob cyfnod talu. Mae hyn yn golygu bydd rhaid i chi bob amser adael o leiaf 60 y cant o’u henillion iddynt o fewn unrhyw gyfnod talu.

Gallwch gymryd y gost gweinyddu hyd yn oed os fydd yn dod o’r 60 y cant sydd ar ôl.

Pa mor ddiogel yw gwybodaeth fy nghwmni?

Mae’r wybodaeth ar y safle yma wedi’i diogelu yn unol â pholisïau diogelwch llywodraeth y DU. Mae’r polisïau diogelwch yn cael eu hadolygu yn barhaus, ac asesir y safle yn eu herbyn. Mae’r safle yn defnyddio cysylltiad HTTPS i gyfyngu’r gallu i drydydd parti heb awdurdod i ryngdorri’r cysylltiad. Eich cyfrifoldeb parhaus chi yw sicrhau bod eich manylion yn ddiogel ac i ddefnyddio’r safle mewn amgylchedd diogel. Mae hyn yn golygu peidio ag ysgrifennu eich manylion a chymryd gofal wrth ddefnyddio’r safle mewn man cyhoeddus.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn methu â chasglu DEO gan weithiwr?

Mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i gasglu’r arian sy’n ddyledus gan eich gweithiwr ac yna ei throsglwyddo atom. Gall methu â gwneud hyn arwain at gamau cyfreithiol gael eu cymryd yn eich erbyn, a gall llys rhoi dirwy hyd at £500 ar gyfer pob taliad DEO a fethwyd.

Os ydych wedi methu taliad, cysylltu gyda ni a byddwn yn eich helpu i’w ddatrys.