1. Hafan
  2. Telerau ac Amodau

Telerau ac amodau

Mae'r dudalen yma ac unrhyw dudalennau cyswllt yn esbonio telerau defnyddio gwasanaeth ar-lein y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Rhaid i chi gytuno i'r rhain i gael ddefnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein.

Os byddwch yn parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein, rydych yn cytuno i gydymffurfio a chael eich rhwymo gan y telerau ac amodau defnyddio canlynol. Mae'r rhain ynghyd â'n polisi preifatrwydd yn rheoli perthynas y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant â chi mewn perthynas â'r wefan yma.

Oni nodir yn wahanol, mae'r deunydd sy'n ymddangos ar y safle yma wedi'i warchod gan Hawlfraint y Goron.

Pwy ydym ni

Rheolir y wefan hunanwasanaeth gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (y cyfeirir at fel 'Ni', neu 'Ein' isod).

Ym Mhrydain Fawr

Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gyfrifol am gynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr.

Yng Ngogledd Iwerddon

Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan yr Adran Gymunedau. Yr Adran Gymunedau sydd gyda chyfrifoldeb am gynhaliaeth plant yng Ngogledd Iwerddon.

Wrth ddefnyddio gwasanaeth ar-lein y gwasanaeth cynhaliaeth plant, rydych yn derbyn ein telerau defnyddio:

  • at bwrpas cyfreithiol.
  • mewn ffordd nad yw'n tresmasu ar hawliau, nac yn cyfyngu nac yn atal defnydd o'r wefan yma gan unrhyw un arall

Gallwn ddiweddaru, newid neu ddileu cynnwys ar unrhyw adeg heb rybudd.

Gwasanaethau a thrafodion

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein i gael mynediad at wasanaethau a thrafodion ar-lein, er enghraifft adrodd am newid mewn amgylchiadau neu wneud taliad cynhaliaeth plant.

Gall y rhain gael eu rheoli gan Fy Achos Cynhaliaeth Plant neu gan adran neu asiantaeth arall o'r llywodraeth.

Mae gan rai gwasanaethau eu telerau ac amodau eu hunain sydd hefyd yn berthnasol - darllenwch y rhain cyn i chi ddefnyddio'r gwasanaeth.

Mynediad gwasanaeth

Os nad yw ein gwasanaeth yn gweithio fel y dylai, byddwn yn ei adfer cyn gynted â phosibl

Eich cyfrifoldeb chi o hyd yw cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau sy'n codi mewn perthynas â thaliad cynhaliaeth plant.

Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i'r gwasanaeth pan ystyrir bod hynny'n angenrheidiol i ddiogelu'r sefydliad, er enghraifft, i'n hamddiffyn ni a/neu uniondeb y gwasanaeth.

Taliadau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn derbyn taliad, a'i fod wedi clirio i mewn i gyfrif y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, ar neu cyn y dyddiad dyledus. Gall methu â gwneud hynny arwain at log a/neu ordal.

Hysbysiadau statudol

Gellir defnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein i roi hysbysiadau statudol i chi. Bydd gan yr hysbysiadau statudol hyn yr un dilysrwydd a goblygiadau cyfreithiol â hysbysiad statudol papur a anfonir atoch drwy'r post.

Cysylltu o'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein Mae'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein yn cysylltu â gwefannau sy'n cael eu rheoli gan adrannau eraill y llywodraeth, asiantaethau a darparwyr gwasanaethau. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y cynnwys ar y gwefannau yma.

Nid ydym yn gyfrifol am:

  • ddiogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i'r gwefannau yma
  • unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o'ch defnydd o'r gwefannau yma, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu gyda nhw

Rydych yn cytuno i'n rhyddhau o unrhyw hawliadau neu anghydfodau a allai ddod o ddefnyddio'r gwefannau yma

Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, polisïau preifatrwydd a thrwyddedau defnyddiwr terfynol sy'n ymwneud â'r gwefannau yma cyn i chi eu defnyddio.

Ceisiadau i ddileu cynnwys

Gallwch ofyn i gynnwys gael ei ddileu o'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein. Byddwn yn dileu cynnwys:

  • er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data sy'n ymwneud â hawliau a rhyddid unigolion
  • os yw'n torri cyfreithiau hawlfraint, yn cynnwys data personol sensitif neu ddeunydd y gellir ei ystyried yn anweddus neu'n ddifenwol

Cysylltwch gyda ni i ofyn i ni ddileu cynnwys. Bydd angen i chi anfon cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys ac esbonio pam y credwch y dylid ei ddileu. Byddwn yn ateb i roi gwybod i chi os byddwn yn ei ddileu.

Rydym yn dileu cynnwys yn ôl ein disgresiwn mewn trafodaeth gyda'r adran neu'r asiantaeth sy'n gyfrifol amdano. Gallwch barhau i wneud cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Ddeddf Diogelu Data.

Gwybodaeth amdanoch chi a'ch ymweliadau i'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch yn unol â'n polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis. Drwy ddefnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein, rydych yn cytuno i ni gasglu'r wybodaeth yma ac yn cadarnhau bod unrhyw ddata a ddarperir gennych yn gywir.

Amddiffyn rhag feirws

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein neu GOV.UK am firysau ar bob cam o'r broses gynhyrchu. Rhaid i chi sicrhau nad yw'r ffordd yr ydych yn defnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein neu GOV.UK yn eich gwneud yn agored i risg o firysau, cod cyfrifiadurol maleisus neu fathau eraill o ymyrraeth a all niweidio eich system gyfrifiadurol.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu system gyfrifiadurol a allai ddigwydd pan fyddwch yn defnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein.

Firysau, hacio a throseddau eraill

Wrth ddefnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein, ni ddylech gyflwyno firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n dechnolegol niweidiol.

Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein, y gweinydd y mae'n cael ei storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig ag ef.

Rhaid i chi beidio ag ymosod ar y gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys ymosodiadau gwrthod gwasanaeth.

Byddwn yn adrodd am unrhyw ymosodiadau neu ymdrechion i gael mynediad anawdurdodedig i'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch gyda nhw.

Ymwadiad

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i gadw'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein yn gyfredol, nid ydym yn darparu unrhyw warantau, amodau na gwarantau y bydd y wybodaeth yn:

  • gyfredol
  • gywir
  • gyflawn
  • yn rhydd rhag bygiau neu firysau

Nid ydym yn cyhoeddi cyngor ar y gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein. Dylech gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn gwneud unrhyw beth ar sail y cynnwys.

Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddod o ddefnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
  • unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan gamweddau sifil ('camwedd', gan gynnwys esgeulustod), tor-cytundeb neu fel arall
  • defnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein ac unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig ag ef neu ohono
  • yr anallu i ddefnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein ac unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig ag ef neu ohono

Mae hyn yn berthnasol os oedd y golled neu'r difrod yn rhagweladwy, wedi codi yn ystod pethau arferol neu os ydych wedi ein hysbysu y gallai ddigwydd.

Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) colli eich:

  • incwm neu gyllid
  • cyflog, buddion neu daliadau eraill
  • busnes
  • elw neu gontractiau
  • gyfleoedd
  • arbedion a ragwelir
  • data
  • ewyllys da neu enw da
  • eiddo diriaethol
  • eiddo anniriaethol, gan gynnwys colled, llygredd neu ddifrod i ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol
  • gwastraffu amser rheoli neu swyddfa

Efallai y byddwn yn dal i fod yn atebol am:

  • farwolaeth neu anaf personol yn deillio o'n hesgeulustod
  • camliwio twyllodrus
  • unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu o dan gyfraith berthnasol

Cyfraith lywodraethol

Mae'r telerau ac amodau yma yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

Bydd unrhyw anghydfod sydd gennych sy'n ymwneud â'r telerau ac amodau hyn, neu eich defnydd o'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein (boed yn gytundebol neu'n anghytundebol), yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Cyffredinol

Mae'n bosibl y bydd hysbysiadau cyfreithiol mewn mannau eraill ar y gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein sy'n ymwneud â sut rydych yn defnyddio'r wefan.

Nid ydym yn atebol os byddwn yn methu â chydymffurfio â'r telerau ac amodau hyn oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth resymol.

Efallai y byddwn yn penderfynu peidio ag arfer neu orfodi unrhyw hawl sydd ar gael i ni o dan y telerau ac amodau hyn. Gallwn bob amser benderfynu arfer neu orfodi'r hawl honno yn ddiweddarach.

Ni fydd gwneud hyn unwaith yn golygu ein bod yn ildio'r hawl yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall.

Os bernir bod unrhyw un o'r telerau ac amodau yma yn annilys, yn anorfodadwy neu'n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau ac amodau sy'n weddill yn berthnasol o hyd.

Newidiadau i'r telerau ac amodau yma

Gwiriwch y telerau ac amodau yma yn rheolaidd. Gallwn eu diweddaru unrhyw bryd heb rybudd.

Byddwch yn cytuno i unrhyw newidiadau os byddwch yn parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth plant ar-lein ar ôl i'r telerau ac amodau gael eu diweddaru.